Dethol cynnwys

  • Mehefin 21, 2012 - robphillips

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ar ddewis cynnwys ar gyfer y prosiect. Mae deunydd yn dod o bob un o’r partneriaid, ac yn amrywio o ran fformat. Rydym yn bwriadu cynnwys deunydd archifol, llyfrau a chyfnodolion, llawysgrifau, deunydd clyweledol, lluniau a phapurau newydd fel rhan o’r adnodd ar-lein a gofynnwyd i’r partneriaid i gyd adnabod eitemau o’u casgliadau i’w cyfrannu.

Fel sy’n arfer digwydd yn sefyllfaoedd fel hyn, mae llawer gormod o ddeunydd i’w cynnwys, felly bu’n rhaid i ni dethol . Er enghraifft, yn achos y papurau newydd roedd yn rhaid ystyried pob teitl cyn penderfynu ar restr derfynol. Roedd yn rhaid inni gadw nifer o ystyriaethau mewn cof, ac rydym wedi ceisio a chadw cydbwysedd daearyddol, gwleidyddol ac ieithyddol yn y rhai i’w cynnwys. Felly, mae nifer o deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â nifer gyda chynnwys yn y ddwy iaith. Mae papurau newydd o bob ardal o Gymru, ac enghreifftiau o safbwyntiau ceidwadol, rhyddfrydol, radicalaidd, sosialaidd a chrefyddol. Wrth lunio’r rhestr, gofynnwyd am fewnbwn oddi wrth academyddion, felly gobeithio bod detholiad addas o bapurau newydd gyda ni erbyn hyn. Er gwybodaeth, dyma’r teitlau rydym wedi dewis; fe all y rhestr derfynol newid wrth gwrs yn sgil ystyriaethau megis hawliau.

  • Aberdare Leader
  • Abergavenny Chronicle
  • Abergavenny Mail
  • Adsain
  • Amman Valley Chronicle
  • Baner ac Amserau Cymru
  • Barmouth and County Advertiser
  • Barry Dock News
  • Brecon & Radnor Express
  • Brecon County Times
  • Y Brython (Lerpwl)
  • Cambria Daily Leader
  • Cambrian News
  • Carmarthen Journal
  • Carmarthen Weekly Reporter
  • Y Clorianydd
  • Y Cymro
  • Y Darian
  • Denbighshire Free Press
  • Dinesydd Cymreig
  • Y Drafod
  • Y Drych
  • Y Dydd
  • Y Genedl
  • Flintshire Observer
  • Glamorgan Gazette
  • Y Goleuad
  • Gwyliedydd Newydd
  • Haverfordwest and Milford Haven Telegraph
  • Herald Cymraeg
  • Herald of Wales
  • Llais Llafur
  • Y Llan
  • Llanelli Star
  • Llangollen Advertiser
  • Monmouth Guardian
  • North Wales Chronicle
  • The Pioneer (Merthyr Tudfil)
  • Seren Cymru
  • South Wales Weekly Post
  • Y Tyst
  • Yr Udgorn