Mae'r pennawd yn cynnwys y delweddau canlynol: 'Anibyniaeth sydd yn galw am ei dewraf dyn' [1914-1918] (Cyhoeddwyd gan y Parliamentary Recruiting Committee, Llundain -Poster rhif. 148; Argraffwyd gan Roberts & Leete Ltd. Llundain WT. 16434/763). Llythyrau a ysgrifennwyd gan y Capten David Jones (1893-1916) at ei fam yn Llanio, Ceredigion, a roddwyd i'r Llyfrgell gan ei chwaer, Mrs E. M. Rees, Llanbedr Pont Steffan, 1994. Llyfrau Ffoto 988, Yr Aifft, 1917. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Diweddariad – Mis Mehefin 2013

  • Mehefin 17, 2013 - robphillips

Mae tipyn o amser wedi pasio ers i fi rhoi diweddariad ar gynnydd y prosiect. Ers y tan yn ôl ym mis Ebrill rydym wedi bod yn gweithio yn galed i sicrhau bod y prosiect yn mynd yn ei flaen ac yn gorffen ar amser. Mae llawer i’w adrodd.

Mae gwaith paratoi a sganio eitemau wedi gorffen.  Mae 253,800 o ddelweddau wedi’u creu a thros 550 munud o recordiadau cyfweliadau hanes llafar wedi’u digido. Rydym wedi creu ffeiliau tesun electronig o drawysgrifau oedd wedi’u teipio o gynnwys y tapiau er mwyn galluogi chwilio’r cyfweliadau, ac mae’r rhain wedi cael eu gwirio gan wirfoddolwyr. Rydym wrthi drawsnewid y ffeiliau hyn i TEI.

Rydym wrthi sicrhau metadata digonol ar gyfer pob eitem. Mae cofnodion catalog yn bodoli eisoes ar gyfer eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, ac mae’r llyfrgelloedd eraill wedi darparu metadata ar gyfer eu deunydd. Mae staff yma yn trosi’r metadata i gofnodion catalog yn system Virtua gan ddilyn safonau sydd wedi’u cytuno ar gyfer metadata’r prosiect. Y bwriad yw gorffen y gwaith hwn erbyn diwedd y mis.

Mae’r tîm datblygu wedi bod yn brysur yn sicrhau llif gwaith ar gyfer amlyncu asedau digidol i gadwrfa ddigidol y Llyfrgell Genedlaethol, Vital. Roedd yn rhaid datblygu llif gwaith newydd ar gyfer mathau gwahanol o ddeunydd; dau ohonynt yn gweithio a’r ddau arall, ar gyferdelweddau deunydd archifol  i fod yn barod erbyn dechrau Gorffennaf. Rydym wedi dechrau amlyncu deunydd i Vital, gan ddefnyddio’r llifau gwaith newydd.

Mae Dafydd Tudur, Rheolwr Hawliau LLGC yn parhau i asesu risgiau ar hawliau eitemau yng nghasgliadau’r Llyfrgell genedlaethol a chysylltu â’r sawl all wybod am ddeiliaid hawliau. Mae asesiadau wedi’u cwblhau ar y rhan fwyaf o ddeunydd o lyfrgelloedd eraill.

Mae llawer o waith yn mynd ymlaen ar ddatblygu rhyngwyneb ar gyfer y prosiect. Mae fersiwn brawf o’r wefan,  sy’n defnyddio data prawf eisoes yn barod, er bod llawer o waith datblygu ar ôl cyn i ni symud ymlaen i brofi’r wefan

Mae cynnydd da ar y gwaith gydag archifdai lleol. Yn ôl ym mis Mawrth aethom i Archifdy Gwynedd i baratoi metadata a sganio eitemau i’r casgliadau. O ganlyniad i’r gwaith hwn roeddwn yn medru cynllunio digido pellach o gasgliadau archifdai Gwent, Morgannwg, Conwy a Sir y Fflint. Mae’r gwaith paratoi a sganio Gwent a Morgannwg wedi dechrau, a bydd tîm yn ymweld ag Archifdy Conwy  wythnos nesaf.

Felly, llawer lawn wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf gyda mwy i gadw ni’n brysyr.

Cysylltiadau teuluol

  • Mehefin 14, 2013 - robphillips

Yn gynnar yn y prosiect gwnaethpwyd y penderfyniad i beidio â chynnwys llyfrau o gasgliad y llyfrgell yn y rhestr o ddeunydd i’w ddigido. Nid oedd llif gwaith yn bodoli ar eu cyfer ac roedd digon o ddeunydd arall yn nhermau archifau, llawysgrifau, delweddau a phapurau newydd i’w digido.

Ers hynny mae rhywfaint o arian preifat y llyfrgell wedi clustnodi ar gyfer rhagor o ddigido deunydd sy’n cyfleu profiad y Cymry yn ystod y Rhyfel Mawr, felly aethom ati i edrych ar y rhestr o ddeunydd roeddwn wedi ei adnabod o’r casgliadau yn y lle cyntaf ond nad oedd modd i’w cynnwys. Ymhlith y deunydd hwn roedd y llyfrau.

Sylwais ar un llyfr, Abercynon to Flanders and back gan Wilfred Bowden. Mae fy nheulu yn dod o ardal gyfagos felly dechreuais ddarllen rhywfaint o’r stori. Roedd Mr Bowden wedi ymuno a’r fyddin yn 1915, pan oedd yn rhy ifanc yn dechnegol, gwasanaethodd ar y Somme ac yn Mametz Wood cyn cael ei anafu a’i gipio gan yr Almaenwyr yn 1918.

Daeth yn ôl i Gymru ar ôl y rhyfel, a chafodd swydd gyda’r Great Western Railway yn Abercynon, gan fod yn yrrwr trenau nes ymlaen. Roedd fy nhad yn gweithio ar y rheilffordd yn Abercynon ar ôl gadael ysgol; tybed oedd Wilfred Bowden yn gweithio yn yr un pryd a’m nhad? Darllenais ymlaen – oedd!

Nes ymlaen ffoniais fy nhad o holi a oedd e’n cofio Wilfred Bowden. Fel taniwr ar yr injans roedd fy nhad wedi gweithio gyda’r dyn oedd wedi ymladd ar y Somme ac oedd wedi bod yn garcharor rhyfel yn 1918. Roedd fy nhad yn son am ddyn uchel ei barch oedd yn ynad heddwch, swyddog undeb  a chynghorydd lleol. Roedd Wilfred Bowden wedi cyfrannu llawer i’w gymuned ers 1918. Roedd yn wyrth iddo ddod yn ôl yn fyw o’r rhyfel, ond wir dyma enghraifft o brofiad un Cymro o’r Rhyfel Mawr.

Dyddiadur a gadwodd taid Ceri A Jones

  • Mai 8, 2013 - morfuddniajones

Thomas-John-Jones-1st-WW-di

Gan Hazel Thomas

Yn ystod ein taith o gwmpas Cymru yn casglu deunydd y Rhyfel Mawr fe gwrddom â Ceri A Jones o Fynydd Isa yr Wyddgrug. Roedd Ceri wedi bod yn ddigon caredig i rannu dyddiadur, a gadwodd ei thaid Thomas John Jones, gyda ni. Roedd y dyddiadur yn rhedeg o 24ain o Fai hyd at 12fed o Fehefin 1917. Roedd gan Ceri eitemau arall yn perthyn i Thomas John Jones hefyd. Eitemau fel lluniau a llythyrau a dderbyniodd yn Ffrainc. Drwy garedigrwydd Ceri, bleser o’r mwyaf i fi yw cael rhannu darn o’r dyddiadur gyda chi.  Roedd Dr. T. J Jones yn filwr gyda’r 8 Battery Res. yn RFA Preston. Ei rhif oedd 189222

Mai 24/17

Cefais fy rhybuddio fy mod ar y drafft pedwar o’r gloch Brynhawn Mercher Mai 24/17.

Paratoi am ddeg y noson honno cael swper unarddeg, ac wedyn cael ein cyflog 5/- a 1/4 i dalu am ymborth yn ystod y daith i Ffrainc; hefyd cefais un sandwich go dda, ac mae rheswm pawb yn deud nad i’w 1/4 yn ddigon i dalu am ymborth yn ystod y daith, yn enwedig i wlad sydd yn gallu gwario 7 miliwn a hanner yn ddyddiol ar y rhyfel.

———————————–

Mai 25

Dydd Iau

 Cawsom ein cadw yn y riding School hyd nes oedd yn ddau o’r gloch y boreu, ac wedyn cychwyn am y stesion, pedwar ugain a chwech mewn nifer ar cwbl yn ddrivers, gallodd un cyfaill i mi osgoi y draft hwn gan fod ei amgylchiadau deuluol yn caniatau hynny.  Tra yn y riding school daeth dwy ferch ifanc yno, a rhoddasant feibl saesneg i bob un ohonon a cawsom fath o gyfarfod gweddu, yr hyn beth sydd yn briodol iawn ar bob adeg, ac yn enwedig ar adeg fel yma, felly cawsom ein rhoddi yn ofal yr hwn sydd yn abl i cadw o dan bob amgylchiad.  Gadawsom Preston tri or gloch y boreu, chwith gennym adael gan fod yn golygu mynd ymhellach.  Pe buasom yn cael troi ein gwynebau tua cartre buasai yn llawer mwy difyr, ond gan mae dyma y stad mae y byd ynddo ar hyn o bryd fell rhaid mynd.

Cyraeddasom Crew 5.25 a newidiasom am dren arall trwodd i Southampton, gawsom siwrne weddol braf, saith o Gymru yn y compartment cawsom olwg ardderchog ar y wlad, a pity fod y fath gyflafan yn bod mewn byd ac y mae Duw wedi ei greu mor hardd.  Cawsom de a teisen gan gyfeillion yn Birmingham a chyraeddasom Southampton chwarter wedi deuddeg.  Cawsom ein rhyddau wedyn hyd hanner awr wedi pump ac aethom i chwilio am ymborth a buon o cwmpas hyd yr amser penodol.  Ni chawsom fynd allan or dociau, ac nid oedd ymborth wedi ei ddarparu. Nid oes genyf fawr ddim yw deud am y dref yma, gan na chefais gyfle i weld dim arni.  Treuliasom prydnawn gweddol, saith o Cymru efo gilydd yn nganol Saeson.  Hiraeth am yr anwyliaid cartref ar meddwl yn ehedeg yno yn amal.

5.30  Paratoi ac wedyn yn cerdded i’r llong.  Credaf fod ar y llong rhai miloedd gan fod yma lawer o gatrawdau eraill yn croesi heblaw ni.  Cawsom bob un ohonon lifebelt, ac dyma ni yn ddec y llong yn dwr bach o Gymru yn nghanol y miloedd yn aros am ir llong gychwyn.

Credaf fod yma pedair o longau mawr yn croesi heno efo milwyr, ac mi ydyn yn byr bryderus yn ngylch y daith. Fe oedd yna ganu garw pan yn cychwyn o Preston ond mae pawb erbyn bron wedi mynd yn fud.

Dylaswn nodi fod y milwyr Cymraeg yn Preston wedi rhoddi cychwyniad da, yn canmol y Cymru yn cae y camp amryw emynau Aberystwyth, Diadem, a Duw mawr y rhyfeddodau maith, ac fe oedd y Saeson yn cyrchu o bob man n gwrando, ac fe oedd yna ganu ardderchog.  Cyfaill o Llandudno yn arwain.  Wel dyma y long yn cychwyn am wyth or gloch a dyma ninnau yn cefnu ar yr hen wlad am rhyw gyfnod beth bynnag, ond a gobaith mawr yn ein calonau na fyddwn yn hir.

Mae Duw yn llond pob le

ai Wyneb ym mhob man

Yr agosaf un o bawb iw ef

at enaid gwan.

David Jones, Llanio

  • Mai 7, 2013 - morfuddniajones

Cefais gyfle yn ddiweddar i edrych ar rywfaint o’r deunydd sydd am gael ei ddigido ar gyfer y prosiect. Y syniad tu ôl i hyn oedd rhoi cyfle i’r staff technegol trin â’r deunydd yn eu ffurfiau gwreiddiol er mwyn iddynt fedru gwerthfawrogi’r hanes sydd y tu ôl i’r casgliadau arbennig yma.

Yn sicr, mi gafodd y profiad yma effaith arna i, yn enwedig wrth fyseddi trwy un o lawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol (gan gofio i wisgo menyg pwrpasol, wrth gwrs!).

Yr eitem o dan sylw oedd llawysgrif NLW MS 23269E, sy’n dwyn y teitl “Llythyrau o’r Rhyfel Byd Cyntaf, 1909-1966”. Mae’n gasgliad o lythyrau a dogfennau yn ymwneud â phrofiadau Capten David Jones o Geredigion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r llythyrau yn dilyn ôl trefn amser ac wrth ddarllen y llythyron cyntaf, rydym yn dysgu am ei brofiadau wrth iddo hyfforddi yng ngogledd Cymru. Mae’r llythyron, sydd wedi’u hysgrifennu at ei fam, yn rhai digon ysgafn yn ystod yr adeg hon, wrth iddo drafod hynt a helynt yr hyn sydd wedi bod yn digwydd nôl yn ei bentref genedigol yn Llanio.

Wedi iddo symud at flaen y gad, mae’r llythyron yn naturiol yn newid yn eu naws. Mae’n amlwg fod papur yn beth prin yng ngogledd Ffrainc, wrth i’r llythyron gyrraedd ar ddarnau papur digon shimpil yr olwg. Gwelwn lythyr yn Saesneg wrth iddo esbonio bod pob llythyr yn cael ei ddarllen gan y fyddin cyn ei anfon er mwyn sicrhau cyfrinachedd. Gwelwn hefyd ddiolchiadau lu i’w fam am y parseli bwyd y mae hi’n gyrru ato (gan gynnwys un diolch arbennig am y ffowlyn yr anfonwyd ato. Pa gyflwr oedd ar y ffowlyn erbyn iddo gyrraedd gogledd Ffrainc, pwy a ŵyr?!).

Ac yn sydyn, dyna ddiwedd ar lythyron David Jones. Yr eitem nesaf yn y casgliad yw telegram at ei fam yn ei hysbysu bod ei mab wedi marw. Mor syml â hynna. Mae’n drawiadol tu hwnt wedi i ddyn ddarllen trwy’r holl ohebiaeth gyffredin a dinod, bod digwyddiad mor dorcalonnus yn glanio’n sydyn heb unrhyw rybudd. Roedd yn drist iawn i mi ddarllen hyn ar ôl dilyn ei yrfa filwrol trwy’r llythyrau blaenorol. Yn dilyn y newyddion trist, cawn lythyrau o gydymdeimlad gan ffrindiau a gohebiaeth bellach o’r fyddin yn mynd i fanyldeb am sut y bu farw David Jones.

Mae’n gasgliad hynod sy’n gosod her i ni ar sut i’w gyflwyno ar gyfer y prosiect. Sut ydym ni am gadw naws y casgliad? Sut y byddwn ni’n sicrhau y bydd y cyhoedd yn cael yr un teimlad a gefais i wrth bori trwy fywyd David Jones? Un peth yw digido’r deunydd, ond peth arall yw sicrhau bod y deunydd o fudd i’r defnyddiwr. Mae’n her sydd eisoes yn cael ei gwrdd, ac y byddwn yn parhau i’w gwrdd dros y misoedd nesa. Gobeithio wir y byddwn yn gallu gwneud daioni a’r casgliad yma, ac wrth gwrs pob un arall sydd yn rhan o’r prosiect.

Siôn England

 

Ymwelwyr o Lyfrgell Ddigidol Prifysgol Caergrawnt

  • Mai 7, 2013 - robphillips

Cwis 10
Yn ddiweddar cawsom ymweliad gan Huw Jones a Maciej Pawlikowski o Lyfrgell Ddigidol Prifysgol Caergrawnt. Mae Huw a Maciej yn gweithio ar brosiect Board of Longitude sy’n cael ei ariannu gan JISC, ac mae ein prosiectau wedi’u clystyru i rannu arfer da a gweithredu fel cyfeillion beirniadol. Yn ystod eu hymweliad cawsant gyfle i ymweld â’n timoedd paratoi deunydd a sganio, tîm y we, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ac ein datblygwyr.

Roedd yr ymweliad yn un defnyddiol iawn i Huw a Maciej a staff LlGC. Cawsom y cyfle i drafod dulliau gwahanol ar gyfer y llif gwaith digido a’r rhyngwyneb. Trwy lwc, roedd yr ymweliad ar yr un adeg a chwis blynyddol cymdeithas staff y llyfrgell, a gynhaliwyd yn Nhafarn Y Cwps. Daeth tîm Huw, Maciej, Lyn Dafis a fi yn olaf ond un – digon parchus!

 

Mwy o sylw i archif Mi7b

  • Mai 3, 2013 - robphillips

The House Journal of MI 7b(1)

Mae dogfennau Mi7b, a gyfrannwyd i’r prosiect gan Jeremy Arter yn parhau i ddenu sylw. Dydd Sadwrn diwethaf cyhoeddwyd erthygl yn The Guardian. Mae’r straeon tu o’r i’r archif hon yn ddiddorol tu hwnt.

Difrod tan yn LlGC a’r effaith ar brosiect digido Cymru WW1

  • Ebrill 29, 2013 - robphillips

Dydd Gwener diwethaf tua 2:40 llwyddodd y Llyfrgell i hebrwng pawb allan o’r adeilad yn dilyn seinio’r larwm tân.

Dioddefodd y Llyfrgell ddifrod tân, mwg a dŵr i ardaloedd a ddefnyddid yn bennaf fel swyddfeydd. Ni
effeithiwyd unrhyw storfeydd a’r unig gasgliadau i ddioddef unrhyw niwed oedd y rhai oedd y staff yn eu
defnyddio ar y pryd yn yr ardaloedd hynny.  Mae’r Llyfrgell ar hyn o bryd yn gweithio’n agos gyda’r
Gwasanaethau Tân i asesu’r difrod ac i sicrhau mynediad diogel i’r staff i’r ardaloedd a effeithiwyd.

Oherwydd difrod dwr, roedd yn rhaid i rai staff y prosiect symud i swyddfeydd eraill, ac er bod ein ffeiliau a dogfennaeth yn ddiogel, mae’n sicr bydd effaith ar y prosiect.

Ar ol i ni cael cyfle i asesu’r effaith y ar y prosiect, ysgrifennaf ddiweddariad ar gyfer y blog, ond yn y cyfarmser mae’r Llyfrgell wedi rhyddhau nifer o luniau ar ein  tudalen Facebook.

Dr Mary ‘Eppynt’ Phillips

  • Mawrth 22, 2013 - carysmorgan

I’n digwyddiad yn Aberhonddu daeth Mrs Lewis â llond bag o ddogfennau a thoriadau papur newydd yn ymwneud â bywyd hynod ddiddorol Dr Mary ‘Eppynt’ Phillips. Cafodd y wraig hynod hon – perthynas i Mrs Lewis – ei geni ym Merthyr Cynog a chafodd fywyd llawn antur yn gwasanaethu fel meddyg adref a thramor.

Mary Elizabeth Phillips oedd y wraig gyntaf i gael ei derbyn fel meddyg o Brifysgol Caerdydd ar droad y ganrif a chymrodd yr enw Dr Mary ‘Eppynt’ Phillips ar ôl y mynydd gerllaw ei chartref.

Ym mis Rhagfyr 1914 fe’i tynnwyd hi i ferw’r Rhyfel Byd Cyntaf gan delegram wrth ysbyty yng Nghaeredin – Scottish Women’s Hospital for Foreign Service – yn gofyn iddi deithio i Calais ar unwaith i gynorthwyo metelegramwn ysbyty yno. Roedd Dr ‘Eppynt’ Phillips yn Calais erbyn dydd Nadolig 1914. Yno, bu hi’n rhedeg yr Ysbyty Teiffoid cyn mynd ymlaen i wasanaethu yn Valjevo yn Serbia yn yr Ysbyty Fenywod Albanaidd yno.

Achosodd salwch iddi orfod dychwelyd i Brydain yn 1915 ble, wedi iddi wella, y bu hi’n darlithio ar hyd a lled Prydain i godi arian ar gyfer yr ysbytai. Dychwelodd i’r cyfandir ym mis Ebrill 1916 a theithio i Corsica i weithio fel y Prif Swyddog Meddygol yn yr ysbyty yn Ajacci ar yr ynys. Yno y bu hi tan iddi deithio adref ym mis Mehefin 1917.

mary_eppynt Mae stori Dr Mary Eppynt Phillips yn un ysbrydoledig a phrin ac yn un y bu hi’n anrhydedd ei chlywed yn Aberhonddu. Fe enwir Dr Eppynt Phillips mewn ysgrifau sy’n trafod hanes menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond mi fydd y casgliad cynhwysfawr a chyfareddol yma yn sicr yn taflu goleuni newydd ar ei gweithredoedd hi, a hefyd yn datblygu’n gwybodaeth ni o fywydau’r menywod arloesol yma a chwaraeodd rhan mor bwysig yn y Rhyfel.

Casglu Profiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Mawrth 15, 2013 - carysmorgan

Rydym ni bellach dros hanner ffordd trwy ein cyfres o ddigwyddiadau i gasglu a rhannu’r profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi eisoes ymweld â Chaernarfon, Pontardawe ac Aberhonddu, rydym ni wedi gweld deunydd amrywiol a difyr gan bobl yn awyddus i rannu stori eu perthnasau agos, cyndeidiau sydd wedi dod i’r golwg trwy ymchwil hanes teulu neu ddynion a menywod o’r ardal a chwaraeodd rhan yn y Rhyfel.

Dyma ddetholiad o’r eitemau sydd wedi eu rhannu yn y digwyddiadau hyd yn hyn.

Byddai milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn gwneud pob mathau o ddyletswyddau a’n cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau fel y dangosa’r ddau ffotograff yma. Llun o filwyr o Gaernarfon a oedd yn gigydd cyn y rhyfel yw’r cyntaf. Parhaodd gyda’r gwaith yn ystod y rhyfel gan baratoi bwyd angenrheidiol i’r milwyr. Yma, fe’i welir gydag eraill yn cigydda carcas.

Roedd hefyd amser am fwynhad, fel y dangosa’r llun yma o griw hwyliog a oedd yn cynnwys Capten Harold Jones o Bontardawe.

PCW00656

PCW01928

Yng Nghaernarfon daeth y llun hyfryd yma o ferched oedd yn gweithio yn Ffatri Vulcan a oedd yn paratoi arfau rhyfel yn y dref. Yn y llun mae mam-yng-nghyfraith y cyfrannwr a oedd yn rhan o’r gweithlu a fyddai’n gweithio mewn un o dair sifft ddydd a nos yn y ffatri. Roedd y gwaith yn beryglus a byddai’r merched yn trin a thrafod ffrwydron a chemegau a  allai liwio’u gwallt a’u crwyn gan beri iddynt gael eu hadnabod weithiau fel  ‘Canaries’.

Munitions' Workers

I’r milwyr yn ymladd dramor, byddai newyddion o adre yn werthfawr iawn ac rydym wedi derbyn sawl llythyr a cherdyn post a anfonwyd gan aelodau teulu iddynt er mwyn rhoi’r diweddaraf o’u bywydau a bywyd adref. Dyma gerdyn post o Landeilo, fy nhref enedigol, a anfonwyd i Frank Wibberley a oedd yn ymladd yn Ffrainc gyda’r 252 Siege Battery. Roedd ei deulu wedi bod ar drip i Landeilo o’u cartref yng Ngorseinon.

Postcard of Llandeilo   PCW01780

Dyma ddetholiad bach iawn o’r amrywiaeth helaeth o ddeunydd sydd wedi dod i’r golwg yn ein digwyddiadau hyd yn hyn. Mae rhagor o straeon difyr iawn ac fe fyddaf yn eu rhannu ar y blog yma yn fuan iawn. Yn y cyfamser, gallwch ddod i’n gweld yn Llyfrgell Rhuthun ar ddydd Llun 18 Mawrth, neu yng Nghanolfan Gymunedol Picton yn Hwlffordd ar ddydd Mercher 20 Mawrth.

Diolch i’r holl gyfrannwyr sydd wedi dod i’n gweld hyd yn hyn!

Casglu a rhannu’r profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Mawrth 14, 2013 - morfuddniajones

Oes gennych chi lythyron, ffotograffau, cardiau post neu eitemau eraill yn berchen i rywun a fu’n byw yn ystod y cyfnod neu i’r sawl oedd ar faes y gad? Gobeithir casglu a chofnodi profiadau personol y Cymry a effeithiwyd gan y Rhyfel. Effeithiodd y rhyfel ar bawb; rhai fu’n ymladd, a’r rhai a arhosodd adref.

Os oes gennych chi eitemau sy’n berthnasol i unrhyw agwedd o fywyd yn ystod blynyddoedd y Rhyfel, plîs dewch â nhw i Lyfrgell Rhuthun ar y 18fed o Fawrth neu i Ganolfan Gymunedol Picton, Hwlffordd ar yr 20fed o Fawrth er mwyn i ni eu digido a’u rhannu.

 

ww1_ruthin_m_hanner                      ww1_haverfordwest_m_hanner

 

Am fwy o wybodaeth, darllenwch y datganiad i’r wasg ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru