“Byddin Gymreig yn y maes” a sefydlu’r Corfflu Cymreig yn 1914

 

 

99 mlynedd yn ôl i heddiw ar y 10fed o Hydref 1914, derbyniwyd sêl bendith swyddogol wrth y Swyddfa Ryfel i sefydlu Corfflu Cymreig, a hyn o ganlyniad i araith a draddododd David Lloyd George yn Neuadd y Frenhines ym Medi 1914.

Mae aelod o staff sydd yn gweithio ar y project wedi ysgrifennu pwt ar hanes sefydlu’r Corfflu Cymreig yn ddiweddar i gyd-fynd â’r amseriad yma. Gellir ei ddarllen trwy glicio ar y linc yma a fydd yn mynd a chi i Flog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae archif y Corfflu Cymreig yn un o’r casgliadau sydd wedi cael ei ddigido yn ei gyfanrwydd ar gyfer y project hwn, a bydd modd chwilio trwy’r casgliad pan fydd gwefan y project wedi’i lansio.

Sylwadau ar gau.