Cofio’r Rhyfel

Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau rydym wedi digido fel rhan o brosiect Rhyfel Byd 1914-1918 a’r Profiad Cymreig, yn dyddio o gyfnod y rhyfel ei hunan. Maen nhw’n adlewyrchu profiad pobl Cymru wedi’u cofnodi yn ystod y Rhyfel. Mae rhai eitemau o’r cyfnod wedi’r rhyfel sy’n edrych yn ôl ar y profiad. Enghraifft dda o’r categori hon yw’r cyfweliadau o Lyfrgell Glowyr De Cymru.  Ond roedd dylanwad y rhyfel yn cael ei deimlo am nifer o flynyddoedd wedi’r cadoediad ym 1918. Mor fawr oedd effaith y rhyfel ar gymunedau roedd angen cofio, cofio’r unigolion a fu farw, cofio aberth y rhai oedd wedi gwasanaethu ac adeiladu dyfodol gwell “a land fit for heroes” yn ôl David Lloyd George.

conwy4bach conwy1bach

Aeth cymunedau ati ar hyd y wlad i godi cofebion a oedd weithiau ar ffurf cofeb, caeau chwarae neu adeiladau cymunedol. Sefydlwyd pwyllgor o’r fath ym Mhenmaenmawr ar Chwefror 3ydd 1919, ac mae cofnodion  y pwyllgor bellach yn Archifdy Conwy. Dyma’r un o’r eitemau a ddewiswyd i’w digido, ac mae’n stori hynod ddiddorol.

Yn y cyfarfod cychwynnol, penderfynwyd codi neuadd gymunedol gyda llyfrgell. Bron ar unwaith roedd gwrthdaro gyda Sefydliad y Dynion oedd hefyd yn bwriadu codi neuadd. Roedd problemau codi arian a galwyd cyfarfod cyhoeddus. Canlyniad y cyfarfod oedd pwyllgor newydd a phleidlais leol i roi’r opsiynau sef cyfuniadau gwahanol o neuadd, llyfrgell, caeau chwarae ac ysgoloriaethau. Unwaith eto dewisodd y bobl neuadd ond erbyn mis Tachwedd roedd yn amlwg bod y costau yn llawer rhy uchel. Penderfynodd y pwyllgor i godi cofeb ar ffurf groes Geltaidd ond nid oedd lleoliad wedi cadarnhau tan fis Tachwedd 1920. Un y cyfarfod hwnnw roedd gwrthwynebiad i’r cynllun a phenderfynodd gydweithio gyda Sefydliad y Dynion I gyfuno eu cynllun ar gyfer neuadd newydd a’r gofeb.

Erbyn Mis Tachwedd 1923, roedd y pwyllgor yn trafod geiriad y gofeb yn wal neuadd newydd Sefydliad y Dynion ac erbyn Mis Mai 1925, roedd y pwyllgor yn trefnu dadorchuddio’r gofeb yn ffurfiol. Roedd cyfarfod olaf y pwyllgor ar 14 Medi 1926, bron i 8 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel. Nid oedd problemau’r pwyllgor ar ben, roedd angen codi dros £400 arall i dalu’r anfonebau i gyd ond roedd Penmaenmawr wedi cael cofeb i feibion y pentref sy’n sefyll hyd heddiw.

Sylwadau ar gau.